Diben

 

1.    Diben y papur hwn yw darparu tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyfer ei ymchwiliad i Gyflwr y Ffyrdd yng Nghymru.

 

Cefndir

 

2.    Rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd Cymru, sydd dros 1,700 cilomedr o hyd, yw un o’n hasedau mwyaf gwerthfawr, yn werth tua £16 biliwn. Mae’r rhwydwaith yn cefnogi’r gwaith o gyflawni llawer o  amcanion Ffyniant i Gymru ac rydym yn gyfrifol am ddarparu rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd diogel a dibynadwy i bobl Cymru. Rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn yn o ddifrif ac yn 2016/17 fe wnaethom fuddsoddi dros £155 miliwn ar waith cynnal a chadw a mân welliannau’n unig. Hyd yn oed yn ystod adegau ariannol anodd rydym yn parhau i weithredu, cynnal ac uwchraddio’r rhwydwaith, sy’n sicrhau 10 biliwn cilomedr o ddefnydd gan gerbydau bob blwyddyn, ym mhob tymor.

 

3.    Awdurdodau lleol Cymru sy’n gyfrifol am y rhwydwaith ffyrdd lleol. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw penderfynu sut i ddyrannu cyfanswm eu hadnoddau yn unol â blaenoriaethau lleol. Ynghyd â’r cyllid heb ei neilltuo a ddarperir gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cymorth Refeniw, mae awdurdodau hefyd yn codi cyllid drwy drethi cyngor ac incwm ardrethi annomestig. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu rhywfaint o gyllid penodol i awdurdodau lleol drwy’r Grant Diogelwch Ffyrdd, Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a’r Gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, a’r Gronfa Drafnidiaeth Leol.

 

Cynnal y Rhwydwaith Traffyrdd a Chefnffyrdd yn Effeithlon ac Effeithiol

 

4.    Mae’r gwaith o reoli’r rhwydwaith wedi gwella cryn dipyn ar ôl trosglwyddo’r holl swyddogaeth gynllunio o’r Asiantiaid Cefnffyrdd i Lywodraeth Cymru yn 2015 yn dilyn cwblhau Adolygiad o Asiantiaid Cefnffyrdd yn 2014/15. Mabwysiadwyd egwyddorion rheoli asedau arfer gorau a bydd dull rheoli asedau newydd sy’n cysoni buddsoddiadau’r rhwydwaith â chyflawni amcanion Ffyniant i Gymru’n cael ei gyhoeddi yn Hydref 2018.

 

5.    Mae diogelwch a defnyddioldeb y rhwydwaith o ddydd i ddydd yn cael ei gynnal gan raglen flynyddol o waith cynnal a chadw ac archwilio rheolaidd. Sicrhawyd arbedion o £14.8 miliwn i gost flynyddol y rhaglen hon drwy weithio mewn partneriaeth â’r Asiantiaid Cefnffyrdd, gan gyflwyno arferion gwaith newydd mwy effeithlon a mabwysiadu technoleg newydd.

 

6.    Mae diffygion a allai effeithio’n syth neu’n fuan ar ddiogelwch y cyhoedd yn cael sylw o fewn 24 awr. Mae rhaglenni gwaith cynnal a chadw ac uwchraddio asedau mawr blynyddol yn sicrhau uniondeb hirdymor y rhwydwaith gyda buddsoddiad wedi’i flaenoriaethu ledled Cymru ar sail angen. Yn 2017/18 gwariwyd tua £50 miliwn yn cynnal ac uwchraddio’r elfennau unigol sy’n rhan o’r rhwydwaith yn cynnwys palmentydd y ffyrdd, strwythurau, golau a draeniau. Nodwch nad yw ffigurau 2017/18 wedi’u harchwilio eto.

 

7.    Achosodd Dihiryn y Dwyrain a Storm Emma anawsterau sylweddol i bob modd  trafnidiaeth dros y gaeaf a gwelwyd dirywiad cyflym yng nghyflwr wyneb y ffyrdd yn sgil y cylch toddi rhew ledled Cymru. O ganlyniad rydym wedi buddsoddi dros £19 miliwn ar osod wyneb newydd ar ffyrdd yn y flwyddyn galendr hon. 

 

8.    Mae cyflwr strwythurol a gallu atal sgidio palmant ffyrdd y rhwydwaith (cerbytffyrdd) yn cael eu harolygu a’u hadrodd yn flynyddol. Cafwyd newid yn y fethodoleg ar gyfer cyfrifo canran y rhwydwaith y mae angen monitro ei chyflwr strwythurol yn agos, sy’n dangos yr angen am gynnal a chadw, ym mlwyddyn ariannol 2015-16 sy’n golygu na ellir cymharu ffigurau unigol cyn ac ar ôl y newid yn uniongyrchol. Fodd bynnag, mae tueddiadau yn y data’n awgrymu bod strategaethau cynnal a chadw wedi llwyddo i gynnal cyflwr strwythurol y draffordd ar lefel debyg i lefel 2014-15 a bod cyflwr strwythurol cefnffyrdd amlbwrpas wedi gwella ers 2014-15.

 

9.    Fodd bynnag, ni allwn fod yn fodlon ar hynny. Er bod canran y traffyrdd sydd â gallu atal sgidio yn is na’r lefel ymchwilio (dangos angen am gynnal a chadw) yn parhau i fod yn isel, mae’r ffigur ar gyfer cefnffyrdd amlbwrpas yn gweld tuedd ar i fyny; mae’r gwaith cynnal a chadw cynnal a chadw ar y cefnffyrdd yn werth tua £83 miliwn; mae’r gwaith cynnal a chadw cyffredinol sydd wedi ôl-gronni ar strwythurau yn werth tua £39 miliwn a nifer y diffygion categori 1 (h.y. y rhai sydd o berygl yn syth neu’n fuan i’r cyhoedd sy’n teithio) yn y cerbytffordd sydd angen gwaith cynnal a chadw heb ei gynllunio, yn aml ar yr adegau prysuraf, gan achosi tagfeydd ac effeithio’n negyddol ar yr economi ar i fyny.

 

10.Mae parhau i fuddsoddi i gynnal yr ased allweddol hwn felly’n hanfodol wrth symud ymlaen i sicrhau ei bod yn darparu’r gwasanaeth sydd ei angen i gefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru yn Ffyniant i Bawb.   

 

Buddsoddi mewn gwelliannau i’r rhwydwaith cyfredol

 

11.Yn 2017, dechreuwyd rhaglen cyfleoedd mannau cyfyng a goddiweddyd gwerth £24 miliwn, wedi’i thargedu’n benodol i ddatrys problemau rhanbarthol ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd. Yn y De a’r Gogledd bydd yn mynd i’r afael â mannau cyfyng sy’n achosi tagfeydd ac sy’n ymestyn amseroedd teithio ar adegau prysur ac yn cyfaddawdu ar ddibynadwyedd a chadernid y rhwydwaith. Yn y Canolbarth, bydd yn darparu cyfleoedd goddiweddyd diogel gan leihau rhwystredigaeth gyrwyr a gwella dibynadwyedd amser teithio.    

 

12.Yn 2017/18 buddsoddwyd tua £1.6 miliwn yn y cynllun parhaus i gyflwyno terfynau cyflymder 20mya y tu allan i ysgolion ar gefnffyrdd a gwella diogelwch i gymunedau yn dilyn yr adolygiad o derfynau cyflymder a gwblhawyd yn 2015. Gwariwyd £1.1 miliwn hefyd dros y flwyddyn yn  lliniaru effeithiau sŵn i ddinasyddion sy’n byw yn agos at y rhwydwaith a bydd rhaglen newydd o fesurau i sicrhau bod y draffordd a’r cefnffyrdd yn cydymffurfio â’r gwerthoedd uchaf a ganiateir ar gyfer NO2 er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd yn dechrau ym mis Mehefin.

 

13. Mae cynaliadwyedd yn ystyriaeth allweddol wrth gynllunio’r holl welliannau i’r rhwydwaith. Rydym yng nghanol rhaglen gwario i arbed sy’n cyflwyno’r dechnoleg LED ddiweddara yn lle golau stryd traddodiadol a fydd yn arbed costau ynni ac yn lleihau ein hôl-troed carbon.     

 

14.Derbyniodd Llywodraeth Cymru lawer o ganmoliaeth am ei Chanllaw Dylunio Teithio Llesol arloesol pan gafodd ei gyhoeddi yn 2013. Gall ffyrdd cyflymder uchel weithredu fel rhwystr i deithio llesol yn aml ac nid ydynt yn annog pobl i wneud hynny. Felly, mae tua £1 miliwn y flwyddyn yn cael ei wario ar ddarparu seilwaith ledled y rhwydwaith i hwyluso teithio llesol.

 

Lleihau Tarfu i Ddefnyddwyr Ffyrdd a Gwella Cadernid y Rhwydwaith

 

15. Mae gwaith ar y rhwydwaith yn cael ei gynllunio’n ofalus ar gyfer cyfnodau llai prysur a thros nos yn aml i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar y cyhoedd sy’n teithio. Mae cyfnodau embargo, pan na chaniateir unrhyw waith nawr yn cael eu teilwra i anghenion penodol y lleoliad. Mae’r cyfnod embargo 18 mis diweddar ar waith yn ystod y dydd ar yr A55 yn enghraifft dda o’r dull hwn.

 

16.Cafwyd gwelliant aruthrol wrth gyfathrebu gyda’r holl randdeiliaid. Mae’r pwyslais wedi newid o linellau ffôn statig i gyfryngau cymdeithasol rhagweithiol. Mae gwybodaeth yn cael ei darparu ymlaen llaw drwy twitter am yr holl waith ffordd a mentrau diogelwch. Ar hyn o bryd, mae 36,000 yn dilyn y cyfrif a’r nod yw parhau i gynyddu hyn. Yn ogystal, cynhelir ymarferion ymgynghori gyda sefydliadau ehangach a mwy amrywiol i sicrhau bod safbwyntiau pawb yn cael eu hystyried o ddifrif.  

 

17.Mae Gwasanaeth y Swyddogion Traffig yn hanfodol i gynnal diogelwch a chadernid yr A55 yn y Gogledd a’r M4 yn y De drwy ymdrin â digwyddiadau rheolaidd fel cerbydau’n torri i lawr a chynorthwyo’r heddlu i ymdrin â digwyddiadau mawr. Fel rhan o’n rhaglen o welliannau parhaus mae’r gwasanaeth wedi’i ymestyn i gwmpasu’r holl draffyrdd, adran ddeheuol yr A470 a’r A483 o Posthouse, Caer i’r ffin â Lloegr yn Gledrid, y Waun am gost isel drwy newid patrwm shifftiau.

 

18.Ddechrau fis Mawrth eleni, pan welodd Cymru gymaint o eira â’r Alban a phobl yn gaeth yn eu cerbydau am hyd at 18 awr a mwy na dwywaith cymaint o eira na De-orllewin Lloegr lle galwyd y fyddin i helpu, ail-agorwyd holl rwydwaith ffyrdd strategol Cymru i draffig o fewn deuddydd ac ni chafwyd unrhyw farwolaethau nac anafiadau difrifol.      

 

Cynlluniau gwella mawr a ffyrdd newydd

 

19.Mae’r gwaith o gyflawni cynlluniau gwella mawr wedi parhau i fynd rhagddo’n gyflym, er gwaethaf cyllidebau heriol. Yr A55 yw’n llwybr strategol allweddol yn y Gogledd, sy’n darparu priffordd economaidd hanfodol i’r rhanbarth. Y llynedd, cwblhawyd rhaglen gwerth £42 miliwn i godi twneli Conwy, Penmaenbach a Phen y Clip i’r safonau gofynnol. Cwblhawyd Cynllun Draenio Uwch Abergwyngregyn i Tai’r Meibion hefyd.

 

20.Ym Medi 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth mae’r Opsiwn Coch oedd y llwybr a ffafriwyd ar gyfer Cynllun Gwella Coridor A494/A55/A548 Sir y Fflint. Bydd y prosiect gwerth £250 miliwn yn gwella capasiti, dibynadwyedd, amserau teithio a diogelwch. Bydd hefyd yn gwella cysylltiadau ar gyfer busnesau a mynediad rhwng ardaloedd preswyl a llefydd gwaith. 

 

21.Cafwyd cyhoeddiad am ffordd osgoi Caernarfon a’r Bontnewydd yn ddiweddar hefyd. Mae’r cynllun yn buddsoddi £135 miliwn yn y rhanbarth, gan ddod â llawer o fanteision i’r ardal. Bydd yn hwb gwirioneddol i’r rhanbarth ac yn meithrin amodau ar gyfer cyfleoedd datblygu economaidd a chyflogaeth cynaliadwy.

 

22.Rydym yn buddsoddi tua £40 miliwn i uwchraddio Cyffyrdd 15 a 16 ar yr A55 gyda chyffyrdd wedi’u gwahanu yn ôl gradd, lle mae £26 miliwn o gyllid wedi’i sicrhau. Sicrhawyd £15 miliwn o gyllid ERDF ar gyfer y prif Gynllun Gwella o Abergwyngregyn i Tai’r Meibion lle gallai adeiladu ddechrau tua diwedd y flwyddyn. Mae gwelliannau seilwaith mawr yn cael eu hystyried i gyffyrdd 3-6 yr A483.

 

23.Mae gwaith arall yn y Gogledd yn cynnwys ceisio cwblhau trydedd bont ar draws y Fenai’n gynt, gwaith a allai gychwyn ddiwedd 2020/ddechrau 2021. Rydym yn gweithio gyda’r Grid Cenedlaethol i edrych ar unrhyw gyfleoedd posibl rhwng Prosiect  Cysylltu’r Gogledd a’r drydedd bont arfaethedig gan ddefnyddio’r bont i gartrefi seilwaith y Grid Cenedlaethol er mwyn croesi Afon Menai. Bydd cytundeb yr astudiaeth ddichonolrwydd yn cael ei ariannu drwy gam dylunio a datblygu gwerth £3 miliwn y drydedd bont sy’n rhan o’r gyllideb ddwy flynedd y cytunwyd arni gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

 

24.Yn y Canolbarth, mae contractwyr yn gweithio ers dwy flynedd ar adeiladu Ffordd Osgoi y Drenewydd, sy’n werth £95 miliwn. Cafwyd llawer o bwyslais ar recriwtio, cyflogi a hyfforddiant lleol fel rhan o’r cynllun. Mae Alun Griffiths Contractors wedi cyflogi 13 prentis fel rhan o’u Rhaglen Academi Sgiliau a hyd yn hyn mae dros £21 miliwn wedi’i wario gyda busnesau yng Nghymru yn darparu nwyddau a gwasanaethau. O’r swm hwnnw, gwariwyd £6 miliwn gyda busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

 

25.Rydym hefyd yn bwriadu adeiladu pont newydd dros Afon Ddyfi ym Machynlleth, ac mae’r gwaith i ddatblygu ateb trafnidiaeth arfaethedig i Landeilo wedi hen gychwyn.

 

26.Sicrhawyd £22 miliwn o gyllid yr UE i gefnogi’r gwaith o gyflawni gwerth £35 miliwn o welliannau rhwng Llanddewi Felffre a Phenblewyn. Mae ymchwiliadau cychwynnol wedi cychwyn hefyd i ddatblygu rhagor o gyfleoedd goddiweddyd ar hyd yr A40. Clustnodwyd cyllid yr UE ar gyfer y gwelliannau hyn a fydd, ynghyd â’r gwelliannau a gwblhawyd fel yr A40 Cylchfan Penblewyn i Barc Slebets a’r A477 Ffordd Osgoi Llanddowror, yn gwella hygyrchedd i gyrchfannau cyflogaeth, cymunedol a thwristaidd allweddol. Byddant hefyd yn gwella ffyniant i’r rhanbarth ac yn darparu mynediad gwell i dref sirol Hwlffordd, Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a phorthladdoedd y Gorllewin yn Abergwaun, Aberdaugleddau a Doc Penfro.

 

27.Yn y De, ar ôl mwy na blwyddyn, daeth yr Ymchwiliad Cyhoeddus i gynllun Coridor yr M4 oddi amgylch Casnewydd i ben ym mis Mawrth. Mae’r Ymchwiliad Cyhoeddus wedi galluogi pawb i gael dweud eu dweud, dros ac yn erbyn y prosiect, yn cynnwys llawer o’r sefydliadau sydd wedi cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor hwn. Ar ôl derbyn adroddiad yr Arolygwyr, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gwblhau’r broses statudol drwy benderfynu a ydynt am wneud y Gorchmynion ai peidio. I gydnabod pwysigrwydd y mater hwn i Gymru gyfan, rydym wedi ymrwymo y bydd adroddiad yr Arolygwyr yn agored i graffu a dadl yn ystod amser y llywodraeth gan Aelodau’r Cynulliad cyn y gwneir penderfyniad terfynol a ddylid llunio contractau ar gyfer adeiladu.

 

28.Mae rhai ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn cyfeirio’n benodol at y Prosiect hwn ac yn cyflwyno tystiolaeth debyg i’r hyn a gyflwynwyd fel gwrthwynebiad i’r Ymchwiliad Cyhoeddus. Gellir gweld ymateb Llywodraeth Cymru i dystiolaeth drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: http://m4-newport.persona-pi.com/rebuttals. Mae tystiolaeth gyntaf Llywodraeth Cymru ar gael drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol http://m4-newport.persona-pi.com/1-proofs-of-evidence.

 

29.Mae gennym nifer trawiadol o gynlluniau sydd eisoes ar waith yn y De, yn cynnwys creu Ffordd Ddeuol ar Ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd. Mae’r prosiect blaenllaw hwn yn fuddsoddiad cyffredinol o £900 miliwn yn economi a seilwaith y De. Agorodd Rhan Tri, o Frynmawr i Dredegar, yn llwyddiannus yn 2015.

 

30.Mae Rhan Dau, o Gilwern i Frynmawr, yn brosiect heriol iawn, oherwydd topograffi, gofynion rheoli traffig ac amodau tir cymhleth. O ganlyniad, gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth am adolygiad prosiect masnachol cynhwysfawr yn 2017. Yn sgil yr adolygiad masnachol hwn, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi dechrau adolygiad o’r prosesau caffael a chyflenwi a ddefnyddiwyd ar y prosiect hyd yn hyn. Mae’r adolygiad hwn yn mynd rhagddo a bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi maes o law.

                                                                                          

31.Mae swyddogion trafnidiaeth yn parhau i reoli’r prosiect i nodi dulliau o liniaru lleoliad y prosiect. Maent hefyd yn gweithio gyda’r contractwr, Costain, gan ddefnyddio mecanweithiau yng nghytundeb y prosiect, i ddatrys y materion sy’n destun anghydfod rhwng y partïon. Serch hynny, mae’r gwaith ar y cynllun yn parhau’n gyflym, ac mae tua dau draean o’r prosiect wedi’i gwblhau. Rydym yn disgwyl cwblhau Rhan Dau erbyn diwedd 2019. Ni fyddwn yn cyfaddawdu ar y cynllun yr ymrwymwyd iddo yn yr Ymchwiliad Cyhoeddus yn 2014 a fydd yn edrych yn drawiadol ar ôl ei orffen.

 

32.Mae’r ddwy ran olaf, Pump a Chwech, rhwng Dowlais a Hirwaun, yn cael eu cyflawni fel Partneriaeth Gyhoeddus Breifat gan ddefnyddio’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Bydd yn cwblhau’r gwaith o greu ffordd ddeuol ar hyd yr A465. Mae Ymchwiliad Cyhoeddus i Rannau Pump a Chwech ar waith.

 

33.Mae buddsoddiad pellach yn seilwaith y De yn cael ei gyflawni drwy brosiectau i adnewyddu twneli Bryn-glas, Pont Afon Wysg a Dyfrbont Malpas, ar gost o dros £40 miliwn; a gwelliannau i gylchfan yr M4 C28 Parc Tredegar, cylchfan A467 Basaleg a chylchfan Pont Ebwy y Ffordd Ddosbarthu Ddwyreiniol mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd. Bydd y prosiect, gyda chost adeiladu o £13.7 miliwn, yn codi’r rhan hon o’r ffordd i safonau modern, yn cynnwys signalau clyfar sy’n ymateb i lifau traffig amrywiol mewn amser real. Rydym yn gweld gwella’r tair cyffordd yn rhan bwysig o’n rhaglen adfywio economaidd yn yr ardal, gan ddarparu mynediad i swyddi, teithiau diogel a dibynadwy a mwy o gadernid.

 

Rhwydwaith ffyrdd lleol

 

34.Yn ôl ffurflenni ariannol awdurdodau lleol, yn 2016-17 (y flwyddyn ddiweddaraf lle mae data ar gael) gwariodd awdurdodau £200 miliwn ar gynnal a chadw ffyrdd. Yn Chwefror 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus £30 miliwn arall i awdurdodau lleol i helpu i fynd i’r afael ag ardaloedd lle mae yna broblemau ac er mwyn atal y rhwydwaith lleol rhag dirywio. Croesawodd CLlLC y cyllid newydd hwn. Mae’r £30 miliwn yn fuddsoddiad untro, yn seiliedig ar fformiwla dyrannu priffyrdd sefydledig.

 

35.Fel y nododd ymateb CLlLC i ymgynghoriad y Pwyllgor, rhwng 2013 a 2015 darparodd Llywodraeth Cymru gymorth refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol drwy Fenter Benthyca Llywodraeth Leol i sicrhau buddsoddiad pellach o £172 miliwn i wella cyflwr eu ffyrdd. Mae’r wybodaeth am gyflwr priffyrdd a gasglwyd gan Data Cymru’n dangos y dirywiad yng nghanran ffyrdd awdurdodau lleol sydd wedi’u dynodi fel rhai mewn cyflwr gwael (neu “goch”). 

 

36.Rydym hefyd wedi darparu cyllid i nifer o awdurdodau lleol gynnal cynlluniau gwella mawr ar eu rhwydweithiau. Y llynedd, agorodd y Prif Weinidog Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae yn swyddogol yng Nghaerdydd, a wnaed yn bosibl diolch i £57 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

37.Dyfarnwyd £26.26 miliwn o grant i Gyngor Bro Morgannwg ar gyfer gwelliannau i Lôn Pum Milltir a £60,000 arall i’w galluogi i gynnal Arfarniad Trafnidiaeth Cam Un i ymchwilio i a datblygu atebion trafnidiaeth o gyffordd A48 Sycamore Cross i gyffordd 34 yr M4

 

38. Ar ddechrau’r flwyddyn ariannol hon, cyhoeddwyd bron £26 miliwn o gyllid gennym drwy ein cynlluniau grant trafnidiaeth. Mae’r grantiau’n fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf economaidd lleol, gwella diogelwch ar y ffyrdd, gwella cyfleusterau trafnidiaeth cyhoeddus a darparu mwy o lwybrau a llwybrau gwell sy’n galluogi pobl yng Nghymru i gerdded a beicio’n ddiogel.

 

39. Dyrannwyd £2.5 miliwn hefyd i awdurdodau lleol yn 2017/18 i wneud iawn am y costau a ddeilliodd o’r eira, yn cynnwys gritio, gwaith clirio eira a phrynu halen.

 

Cyllid a chynllunio trafnidiaeth

 

40. Cyhoeddwyd y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2015. Mae’r cynllun yn nodi rhaglen bum mlynedd dreiglol uchelgeisiol o ymyriadau trafnidiaeth y byddwn yn eu gweithredu ledled Cymru. Diweddarwyd y Cynllun yn Rhagfyr 2017, gyda’r bwriad i adolygu’r Cynllun bob blwyddyn i adlewyrchu datblygiadau dros amser a’r proffil anghenion newidiol ledled Cymru.

 

41. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau gwerth am arian a sicrhau effeithlonrwydd ym mhob cynllun trafnidiaeth. Mae’r amlen ariannol sydd gennym ar gyfer cyflawni’n Cynllun yn parhau i fod yn heriol, a chyda chyllidebau cyfalaf yn parhau i fod o dan bwysau digynsail rydym yn gweithio’n galetach a doethach i ddenu buddsoddiad newydd ac i sicrhau bod gwariant cyfalaf yn sicrhau’r manteision gorau yn y ffordd fwyaf effeithiol.

 

42. Rydym yn benderfynol o ddiogelu a hybu’n harian gyda’r holl ysgogiadau a phwerau sydd ar gael i ni yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU ond hefyd drwy amrywiaeth o gynlluniau cyllido arloesol.

 

43. Mae’r adolygiad o Strategaeth Drafnidiaeth gyfredol Cymru, a gyhoeddwyd yn 2008, yn rhoi cyfle i fabwysiadu dull newydd sy’n gosod system drafnidiaeth gyhoeddus integredig yng nghalon ein strategaeth. Rydym yn rhagweld y bydd y Strategaeth yn cael ei chyhoeddi yn 2019 i’n galluogi ni i ymgynghori ar gyfnodau allweddol yn ei datblygiad ac mae swyddogion eisoes yn ymgysylltu gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar ba gyfeiriad ddylai’r strategaeth ei gymryd.

 

44. Byddwn yn rhoi cefnogaeth lwyr i ddull rhanbarthol o gynllunio trafnidiaeth leol. Galluogodd ein Canllawiau i awdurdodau lleol ar ddatblygu eu Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol yr awdurdodau i baratoi’r cyfryw ddogfen ar y cyd ag awdurdodau trafnidiaeth eraill. Datblygwyd Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol ar y cyd yn y De-orllewin, rhan o’r De-ddwyrain, y Canolbarth a’r Gogledd.

 

45. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn y De-ddwyrain i ddatblygu model trafnidiaeth a’r bwriad yw cyflwyno’r cysyniad i weddill Cymru. Mae’r model yn edrych ar ofynion cyfredol a’r dyfodol ar draws pob math o ddulliau trafnidiaeth ac yn cysylltu â chynigion defnydd tir. Bydd yr allbwn yn darparu tystiolaeth gadarn ar y ffordd orau i wella’n system drafnidiaeth i gefnogi datblygiadau fel tai a chyflogaeth, cysylltu pobl a gwasanaethau, a mynd i’r afael â thagfeydd a gwella cadernid ein seilwaith. Gellir defnyddio’r model i lywio cynllunio defnydd tir yn y dyfodol.

 

46.Rydym wedi cyhoeddi Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) i’w ddefnyddio wrth ymchwilio i fuddsoddiadau trafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru a chan bartneriaid sy’n derbyn cyllid grant gennym ni. Datblygwyd WelTAG i’w ddefnyddio gyda’r gwaith o ddatblygu’r holl gynlluniau trafnidiaeth i sicrhau eu bod yn gwneud y cyfraniad gorau posibl at lesiant Cymru, fel y nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn hytrach na dewis un model yn lle un arall yn benodol.

 

Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol

 

47.Mae’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn ddull arloesol o fuddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus a ddatblygwyd yng Nghymru. Fe’i cynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru i gyllido prosiectau cyfalaf mawr yn sgil prinder cyllid cyfalaf.

 

48.Bydd y Model yn cefnogi buddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau seilwaith cymdeithasol ac economaidd ac yn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd cynlluniau’r Model yn gweld partneriaid preifat yn creu a chynnal asedau cyhoeddus. Yn gyfnewid am hyn, bydd Llywodraeth Cymru’n talu ffi i’r partner preifat, a fydd yn talu am gost adeiladu, cynnal a chadw a chyllido’r prosiect.

 

49.Mae’r model hwn yn galluogi’r sector cyhoeddus i rannu elw’r partner preifat, dileu gwasanaethau meddal o gontractau, ac ymgorffori tryloywder, am gostau a pherfformiad, a’r gofyniad i adolygu effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a pherfformiad bob dwy flynedd. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau pwysig i sicrhau manteision cymunedol, datblygu cynaliadwy, lle mae’n rhaid i’r partner preifat ein helpu ni i ddarparu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal ag ymgorffori’n hymrwymiad i god cyflogaeth foesegol.

 

Mentrau Cyllid Preifat (PFI) hanesyddol

 

50.Mae Llywodraethau Cymru wedi osgoi anfanteision Mentrau Cyllid Preifat (PFI). O ganlyniad i’n dull, mae rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â’r math hwn o gynllun yng Nghymru yn llawer is nag mewn rhannau eraill o’r DU. Mae cost gyfartalog flynyddol y pen cynlluniau PFI yng Nghymru (llawer is na £40) tua un rhan o bump o gost y pen ar gyfer y DU i gyd (dros £160). Mae gwerth cyfalaf y pen cynlluniau PFI yng Nghymru (tua £200) tua un rhan o bump o werth y pen yng ngweddill y DU (ychydig o dan £900).

 

51.Dylai pob awdurdod sy’n gyfrifol am gontractau PFI adolygu’r contractau hyn, yn cynnwys ystyried yr achos dros brynu’r contractau lle gallant fforddio hynny ac y byddai’n rhoi mwy o werth am arian dros yr oes sy’n weddill o’r contract.

 

52.Gall partneriaethau wedi’u dylunio, eu cynllunio a’u rheoli’n dda gyda’r sector preifat i ddarparu seilwaith cyhoeddus gynnig gwerth da am arian a sicrhau bod asedau mawr eu hangen yn cael eu darparu’n llawer cynt nag y byddent fel arall.

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

 

53. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw’r egwyddor drefnu ganolog yn ein proses a’n gweledigaeth cynllunio trafnidiaeth. Mae’r cynllun yn amlinellu buddsoddiad ym mhob dull gyda chyllid wedi’i glustnodi i gefnogi gwahanol ddulliau a sicrhau bod pob dull yn elwa.